Senedd
Y Pwyllgor Busnes
Hydref 2020
Diwygio Rheolau Sefydlog: Atal trafodion cyn pleidleisiau electronig o bell
Diben
2. Mae’r adroddiad hwn yn cynnig diwygio Rheolau Sefydlog i ddileu'r gofyniad am doriad o bum munud o leiaf cyn unrhyw bleidlais electronig o bell a mewnosod gofyniad am doriad o bum munud o leiaf ar gais tri Aelod.
Cefndir
3. Mae Rheol Sefydlog 34.14D yn nodi, pan gynhelir pleidleisiau o unrhyw leoliad trwy ddulliau electronig, ‘cyn cymryd unrhyw bleidlais, rhaid i'r Llywydd atal y trafodion dros dro am o leiaf bum munud. Os yw pleidleisiau igael eu cymryd yn syth ar ôl ei gilydd, dim ond unwaith y mae angen atal ytrafodion dros dro.’
4. Caiff y pleidleisio electronig o bell ei wneud drwy Ap. Fe'i defnyddiwyd gyntaf yn ystod y Cyfarfod Llawn hybrid cyntaf ar 8 Gorffennaf 2020 ac mae wedi’i ddefnyddio yn ystod pob cyfnod pleidleisio ers hynny.
5. Defnyddiwyd yr egwyl i ganiatáu i Aelodau fewngofnodi i system a oedd yn anghyfarwydd iddynt i ddechrau, ac i'r Llywydd gynnal pleidlais brawf.
6. Cynhaliwyd Cyfnod 3 y Bil Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau (Cymru) ar 8 Gorffennaf 2020. Cafwyd egwyl o bum munud cyn pob pleidlais, h.y. ar ôl y ddadl ar bob grŵp, yn unol â gofynion Rheol Sefydlog 34.13D. Roedd dau grŵp, a olygai ddwy egwyl o bum munud a rhywfaint o adborth gan yr Aelodau bod dwy egwyl yn ddiangen.
7. Mae Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) wedi'i drefnu ar gyfer 10 Tachwedd 2020. Denodd Cyfnod 2 y Bil 297 o welliannau mewn 25 o grwpiau. Mae'n debygol, felly, y bydd Cyfnod 3 yn denu lefel o welliannau a fyddai yr un mor uchel ac, yn bwysicach yn y cyd-destun hwn – nifer fawr o grwpiau. Byddai egwyl o bum munud cyn pob grŵp yn arwain at ddwy awr a phum munud ychwanegol o fusnes, pe bai'r un nifer o grwpiau yng Nghyfnod 3 ag yr oedd yng Nghyfnod 2.
Newidiadau a gaiff eu cynnig
8. Gan fod Aelodau bellach wedi cael amser i feistroli'r ap pleidleisio o bell, a bod tebygolrwydd mawr y bydd gan drafodion Cyfnod 3 nifer sylweddol o grwpiau, cynigir diwygio'r Rheolau Sefydlog fel bod egwyl cyn pleidleisio yn ddewisol.
9. Cynigir bod Rheol Sefydlog 34.14D yn cael ei diwygio i ddileu'r gofyniad am doriad o bum munud cyn unrhyw bleidlais a mewnosod gofyniad yn atal y trafodion am bum munud ar gais o leiaf tri Aelod. Mae hyn yn debyg i'r ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 12.44 ar gyfer pleidleisio yn y Siambr (ond heb gyfeirio at y gloch):
Pan gynhelir pleidleisiau yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A, nid yw Rheol Sefydlog 12.44 yn gymwys, ond cyn cymryd unrhyw bleidlais, pan fydd o leiaf dri aelod yn gwneud cais, rhaid i'r Llywydd atal y trafodion dros dro am o leiaf bum munud. Os yw pleidleisiau i gael eu cymryd yn syth ar ôl ei gilydd, dim ond unwaith y mae angen atal y trafodion dros dro.
10. Mae Rheol Sefydlog 12.18 yn darparu y caiff y Llywydd, mewn amgylchiadau lle mae o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, atal y trafodion am gyfnod penodedig.
Mae'r Llywydd wedi nodi ei bwriad i drefnu egwyl fer cyn pob cyfnod pleidleisio a chyn y gyfres gyntaf o bleidleisiau yn ystod trafodion Cyfnod 3.
Cam i’w gymryd
11. Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 20 Hydref 2020, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad A.
Atodiad A
Pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn
34.11 Pan fo'r Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, yn penderfynu ei fod yn ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, caiff pob grŵp gwleidyddol (neu grwpiad a ffurfir at ddibenion Rheol Sefydlog 11) enwebu un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gael yr un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp neu grwpiad, neu yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, aelodau’r grŵp hwnnw yn ogystal ag unrhyw aelodau eraill o’r llywodraeth.
34.12 Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 34.13, mae Rheol Sefydlog 34.11 yn gymwys i holl fusnes y Cyfarfod Llawn.
34.13 Nid yw Rheol Sefydlog 34.11 yn gymwys pan fo deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i basio penderfyniad neu gynnig drwy bleidlais lle bydd nifer yr Aelodau sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad neu'r cynnig ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Senedd.
34.14 Rhaid dangos pleidlais a gafodd ei bwrw o dan delerau Rheol Sefydlog 34.11yn glir yn y cofnod o drafodion y Cyfarfod Llawn.
34.14A Pan fo'r Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, yn penderfynu ei fod yn ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, gellir gwneud trefniadau i'r Aelodau bleidleisio o unrhyw leoliad trwy ddulliau electronig.
34.14B Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 12.41A-H, rhaid i'r Aelodau fwrw eu pleidlais yn unigol (ond nid yw'n ofynnol iddynt bleidleisio).
34.14C Mae Rheolau Sefydlog 34.14A a 34.14B yn berthnasol i'r holl fusnes yn y Cyfarfod Llawn.
34.14D Pan gynhelir pleidleisiau yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A, nid yw Rheol Sefydlog 12.44 yn gymwys, ond cyn cymryd unrhyw bleidlais, pan fydd o leiaf dri Aelod yn gwneud cais o’r fath, rhaid i'r Llywydd atal y trafodion dros dro am o leiaf bum munud. Os yw pleidleisiau i gael eu cymryd yn syth ar ôl ei gilydd, dim ond unwaith y mae angen atal y trafodion dros dro.